Dysgwch fwy am y cwynion y gallwn helpu yn eu cylch, gan gynnwys y cwmnïau rheoli hawliadau rydym yn eu cynnwys a’r cwsmeriaid y gallwn eu helpu.
Gallwn helpu â chwynion am y gwasanaeth a roddir gan gwmnïau rheoli hawliadau (CMCs).
Gallwn wneud hyn hyd yn oed os oedd y CMC wedi’ch cynrychioli i gyflwyno cwyn am fusnes ariannol i’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol.
Pan fyddwch yn cysylltu, byddwn yn eich hysbysu os yw’r CMC yn un a gynhwysir gennym, ac os yw’r gŵyn am rywbeth y gallwn ymchwilio iddo.
Y CMCs a gynhwysir gennym
Gallwn fel arfer edrych ar gwynion am CMCs:
- sy’n darparu eu gwasanaethau o Loegr, Yr Alban a Chymru neu i gwsmeriaid yn y gwledydd hyn
- a awdurdodir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA)
Mae hyn yn cynnwys CMCs sy’n trafod hawliadau am:
- anaf troseddol (anafiadau personol o ganlyniad i drosedd)
- cyflogaeth (er enghraifft, diswyddo annheg)
- cynnyrch a gwasanaethau ariannol
- diffyg atgyweirio tai (er enghraifft, pan fyddwch wedi dweud am atgyweiriadau wrth eich landlord ac nid ydynt wedi gwneud dim amdanynt)
- anaf diwydiannol (hawliadau am fudd-daliadau os cawsoch eich anafu mewn damwain yn y gwaith)
- anaf personol
Gallwn hefyd edrych ar gwynion ynghylch sut mae CMCs yn dod o hyd i gwsmeriaid sydd â hawliadau posibl yn y meysydd hyn (er enghraifft, trwy alwadau ffôn na ofynnwyd amdanynt).
A gallwn edrych ar gwynion am CMCs a oedd yn cael eu cynnwys gan yr Ombwdsmon Cyfreithiol ar adeg y digwyddiad y mae eich cwyn amdano.
Y mathau o gwynion y gallwn helpu yn eu cylch
Gallwn eich helpu os yw’ch cwyn am y gwasanaeth rydych wedi’i dderbyn gan CMC.
Gallai fod yn sefyllfa lle rydych yn tybio:
- nad oedd y CMC wedi esbonio’n eglur:
- pa ffioedd y byddent yn eu codi cyn iddynt ymrwymo i gytundeb â chi
- unrhyw newidiadau i’r ffioedd yn ystod cyfnod y cytundeb â chi
- nad oeddent wedi’ch hysbysu am gynnydd eich hawliad
- eu bod wedi achosi oedi diangen i gynnydd eich hawliad
- eu bod wedi rhoi cyngor amhriodol neu anghywir ynghylch hawliadau
- eu bod wedi methu â dilyn eich cyfarwyddiadau
- nad oeddent bob amser yn ymateb pan oeddech yn cysylltu â nhw
- eu bod wedi trosglwyddo eich hawliad i CMC arall heb ddweud wrthych
- eu bod wedu cysylltu â chi dro ar ôl tro heb eich caniatâd
Os ydych wedi derbyn gwasanaeth gwael gan CMC, gallwn helpu i unioni pethau. Ond ni allwn edrych ar neu newid canlyniad eich hawliad gwreiddiol –er enghraifft, penderfyniad tribiwnlys cyflogaeth i wrthod eich hawliad am ddiswyddo annheg.
Y Defnyddwyr y gallwn eu helpu
Gallwn eich helpu gyda’ch cwyn os ydych yn:
- ddefnyddiwr unigol – neu ddefnyddwyr ar y cyd
- ‘microfenter’ (busnes gyda throsiant blynyddol o lai na €2 filiwn a llai na deg o gyflogeion)
- busnes â throsiant blynyddol o lai na £6.5 miliwn, a naill ai llai na 50 o gyflogeion neu fantolen o lai na £5 miliwn
- elusen gydag incwm blynyddol o lai na £6.5 miliwn
- ymddiriedolwr ymddiriedolaeth sydd â gwerth ased net o dan £5 miliwn
Terfynau amser
Cyn i chi ddod atom, bydd angen i chi fod wedi rhoi’r cyfle i’r CMC ddatrys y broblem. Mae ganddynt hyd at wyth wythnos i gyflwyno eu hymateb terfynol i’ch cwyn. Bydd angen i chi wedyn gysylltu â ni o fewn chwe mis i ddyddiad llythyr ymateb terfynol y CMC.
Mae’n bosibl y bydd terfynau amser eraill sy’n ymwneud â’ch cwyn – dysgu mwy am derfynau amser.
Iawndal
Mae ffiniau ynghylch y swm y gallwn ddweud wrth CMC i dalu i chi. Dysgu am iawndal – sut rydym yn ei gyfrifo, a beth yw’r ffiniau.
Cwynion trawsffiniol
Gallwn fel arfer edrych ar gwynion am CMCs:
- sy’n darparu eu gwasanaethau o Loegr, Yr Alban a Chymru neu i gwsmeriaid yn y gwledydd hyn
- a awdurdodir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA)
Os nad ydych yn byw yn Lloegr, yr Alban neu Gymru ac rydych yn dymuno gwneud cwyn am CMC sydd â chanolfan y tu allan i’r gwledydd hyn, mae’n bosibl y gallech gael help gan gorff trafod cwynion cyfatebol. Yng Ngogledd Iwerddon, mae’r rheolau’n wahanol. Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon, neu’n delio â CMC wedi’i leoli yno, rhowch wybod i ni.
Cysyltwch â ni a byddwn yn ceisio eich helpu i gyfeirio eich cwyn at y sefydliad cywir.
Cwynion na fyddwn yn gallu helpu yn eu cylch o bosibl
Mae’n bosibl y ceir rhesymau pam na allwn eich helpu â chwyn. Er enghraifft, ni fyddwn fel arfer yn trafod cwyn am CMC rydym ni neu’r Ombwdsmon Cyfreithiol wedi edrych arni’n barod.
Weithiau ni allwn helpu oherwydd y trafodir eich cwyn yn well gan sefydliad neu wasanaeth arall. Os na allwn helpu, byddwn yn ceisio dweud wrthych pwy sy’n gallu.
Cysylltu
Os na fyddwch yn siŵr a allwn helpu gyda’ch cwyn, neu fod cwestiynau eraill gennych, ffoniwch ni ar 0800 023 4567.
Gallwch hefyd ddysgu mwy am sut i gysylltu os oes gennych anghenion hygyrchedd.