Pwy ydym ni, yr hyn a wnawn a’n pwerau.
On this page
Daeth yr Ombwdsmon Rheoli Hawliadau’n gyfrifol am ddatrys cwynion am gwmnïau rheoli hawliadau (CMCs) ar 1 Ebrill 2019. Rydym yn rhan o’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol, ond rydym yn edrych ar gwynion ynghylch CMCs ar wahân.
Os oes gennych gŵyn am fusnes ariannol, neu os ydych yn fusnes ariannol yn trafod cwyn, ewch i wefan ein Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol.
Yr hyn a wnawn
Rydym yn edrych ar gwynion cwsmeriaid ynghylch y gwasanaeth a roddir gan CMCs. Lle nad yw pethau’n deg, gallwn ddefnyddio’n pwerau i’w cywiro.
Rydym yn cynnwys CMCs a reoleiddir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). O 1 Ebrill 2019, cychwynnodd yr FCA reoleiddio CMCs sy’n trafod hawliadau’n ymwneud ag
- anaf troseddol
- cyflogaeth
- cynnyrch a gwasanaethau ariannol
- diffyg atgyweirio tai
- anaf diwydiannol
- anaf personol
Cyn 1 Ebrill 2019, roedd yr Ombwdsmon Cyfreithiol yn trafod cwynion ynghylch CMCs. Rydym hefyd yn cynnwys CMCs a oedd yn cael eu cynnwys gan yr Ombwdsmon Cyfreithiol ar adeg y digwyddiad y mae’r gŵyn amdano.
Os ydych wedi cwyno wrth CMC am eu gwasanaeth, ond nad ydych yn teimlo eu bod wedi datrys eich cwyn yn deg, gallwn helpu i gywiro pethau.
Os ydych yn gweithio i CMC ac yn trafod cwynion cwsmeriaid, gallwn eich cynghori ynghylch sut i drafod ac atal cwynion.
Beth yw cwmni rheoli hawliadau?
Mae CMCs yn helpu pobl i wneud cais am iawndal. Er enghraifft, gallent eich helpu os byddwch yn credu bod busnes ariannol wedi rhoi cyngor camarweiniol i chi wrth werthu cynnyrch neu wasanaeth i chi - ac rydych ar eich colled o ganlyniad.
Yn nodweddiadol, bydd CMC yn codi ffi arnoch am eu gwasanaeth, a allai gynnwys:
- rhoi cyngor i chi am hawliad
- ymchwilio i hawliad
- cynrychioli hawliad ar eich rhan
Ein pwerau
Nodir ein pwerau yn Rhan XVI ac Atodlen 17 y Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000.
Atodir hyn gan Bennod 4, Rhan 3, Gorchymyn 2018 y Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (Gweithgaredd Rheoli Hawliadau).